Mae bioamrywiaeth ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cael hwb diolch i gyllid gan gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn un o’r ardaloedd mwyaf poblogaidd ymhlith ymwelwyr yng Nghymru gan feddu ar rai o’i chopâu uchaf a’i thirweddau gwyrddaf. Ond, y tu ôl i’r teithiau cerdded poblogaidd a’r golygfeydd godidog, mae tîm yn gweithio i gadw bioamrywiaeth yr ardal.
Yn 2020/21, mae Partneriaeth Natur Leol Bannau Brycheiniog wedi derbyn cyllid gan gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), i’w wario ar 11 o brosiectau twf amgylcheddol ar draws y Parc.
Mae’r prosiectau wedi gwella nifer o ardaloedd gwyrdd y Parc Cenedlaethol gan fod o fudd i fyd natur lleol a’i adferiad.
‘Yng Nghymru, ac yn fyd-eang, mae bioamrywiaeth yn parhau i brofi dirywiad sylweddol,’ meddai James Marsden, Hyrwyddwr Aelod dros Dirwedd a Bioamrywiaeth yr Awdurdod.
‘Yma, ym Mannau Brycheiniog, rydyn ni’n mynd i’r afael â hyn trwy gyflenwi’r Cynllun Gweithredu Adfer Byd Natur a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2019 i lywio gwaith ein Partneriaeth Natur Leol ac i adfer amgylchedd naturiol y Parc.’
Cyflawnodd staff y Parc Cenedlaethol waith ar safleoedd gan gynnwys Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol lle y cafodd perthi eu lledu a phlannwyd blodau sy’n beillwyr-gyfeillgar.
Yn yr un modd, elwodd Parc Gwledig Craig-y-nos gan welliannau i’r perthi ynghyd â phlannu 9,500 o blanhigion lleol mewn coetiroedd.
Prynwyd cyfanswm o 102 o flychau ystlumod a blychau adar a chawsant eu dosbarthu i safleoedd gan gynnwys Caban Sgowtiaid Y Gelli Gandryll a choetir Castell Carreg Cennen gan roi lle diogel i fywyd gwyllt sy’n bridio fagu eu hepil bob blwyddyn.
‘Parc mwy gwydn sy’n gyfoethog o ran natur…’
Hefyd, cefnogodd y cyllid ddau brosiect cymunedol: gwaun blodau gwyllt yng Nghlos Cwmbeth, Crughywel a phlannu amrywiaeth o goed ffrwythau lleol ar hyd Llinell Gofilon.
Ar ben hyn, galluogodd linyn Twf Amgylcheddol y cyllid i Bartneriaid Natur Lleol Bannau Brycheiniog ganolbwyntio ar brosiectau mwy mewn dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill sy’n ymwneud â’r gwaith a gyflawnwyd diolch i’r cyllid newydd mae adnewyddu’r llwybr pren er mwyn sicrhau mynediad diogel i’r gwlyptiroedd yn ogystal â chynaeafwr hadau i gasglu hadau blodau gwyllt brodorol ac i’w lledaenu o amgylch y parc.
‘Fel y dangoswyd trwy’r 11 o brosiectau sy’n seiliedig ar fyd natur, trwy gydweithio â mudiadau partner, cymunedau, a thirfeddianwyr, gallwn ni sicrhau Parc Cenedlaethol sy’n fwy gwydn, sy’n fwy cyfoethog o ran byd natur ac sydd o fudd i bob un ohonom ni,’ meddai James.